Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2
Dyddiad: Dydd Iau, 9 Tachwedd 2023
Amser:
09.32 -
11.04
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13552
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Jayne Bryant AS Luke Fletcher AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Stuart Fitzgerald, Llywodraeth Cymru Sarah Rhodes, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Clerc) Angharad Era (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Jennie Bibbings (Ymchwilydd) Rachael Davies (Ail Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
2 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Newid Hinsawdd
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio
Sarah Rhodes, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Tai
Stuart Fitzgerald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu amserlen ddangosol ar gyfer cyflwyno Bil yn ymwneud â digartrefedd.
2.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu dadansoddiad o'r 5,575 o dai fforddiadwy newydd a ddarparwyd ers 2021, gan gynnwys faint o'r rhain sy'n cyfrannu tuag at darged Llywodraeth Cymru o ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd i'w rhentu erbyn diwedd tymor y Senedd hon.
2.4 Cytunodd y Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr uwchgynhadledd sydd ar ddod yn ymwneud â ffosffadau mewn afonydd.
2.5 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu ffigur mewn perthynas â nifer y bobl sy'n manteisio ar y cynllun Cymorth i Aros.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Llythyr gan Anabledd Cymru - Cyllideb Ddrafft 2024-25
3.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.2 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
3.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.3 Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
3.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.
6 Blaenraglen waith
6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.